#
Briff Ymchwil: Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru
Rhif: P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru Geiriad y ddeiseb Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Cofrestr Statudol
ar gyfer Lobïwyr yng Nghymru.
|
Cefndir
Ymchwiliad y Pwyllgor Safonau
Cytunodd Pwyllgor Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mai trafod lobïo yng Nghymru fyddai ei waith sylweddol cyntaf yn y Pumed Cynulliad. Bu sawl datblygiad ers y tro diwethaf i'r Cynulliad drafod lobïo; dechreuodd San Steffan weithredu cofrestr o lobïwyr proffesiynol yn 2015 a derbyniwyd deddfwriaeth i sefydlu cofrestr lobïo yn yr Alban yn 2016.
Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a gasglwyd nad oes ateb parod o ran sut y dylid diffinio lobïo na rhannu gwybodaeth amdano. Yn ddiau, mae grwpiau sy'n ceisio dylanwadu ar wleidyddion, a byddai pennu hyd a lled y dylanwad hwn er budd y cyhoedd. Serch hynny, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd ynghylch y ffordd orau o rannu'r wybodaeth hon wedi'i chael.
Safbwynt dros dro yw canfyddiadau'r adroddiad. Roedd y Pwyllgor o'r farn ei bod yn hanfodol dysgu o brofiad a chasglu rhagor o dystiolaeth o arfer gorau. Mae’n ddyddiau cynnar ar ddeddfwriaeth yr Alban, felly bydd y Pwyllgor yn monitro'n fanwl yr hyn sy'n digwydd yno a'r adolygiad o'i deddfwriaeth yn 2020. Hefyd, rhaid i’r Pwyllgor gwylio datblygiadau yn San Steffan yn ofalus.
Roedd y Pwyllgor yn argymell:
§ bod Comisiwn y Cynulliad yn gweithio gyda grŵp o Aelodau’r Cynulliad i ddatblygu cynllun peilot o ddatgelu cyfarfodydd ACau â lobïwyr a grwpiau diddordeb ar sail wirfoddol gan gynnal gwerthusiad yn 2020.
§ bod Comisiwn y Cynulliad yn sicrhau bod pob pàs diogelwch staff y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei ddiactifadu ar y diwrnod y mae staff yn gadael cyflogaeth. Byddai hyn yn sicrhau nad oes gan unrhyw lobïwr bàs y Cynulliad Cenedlaethol, gan ei gwneud yn haws i gynnal enw da'r Cynulliad fel sefydliad sy'n caniatáu mynediad teg a chyfartal i bawb.
§ y dylid cynnwys gwybodaeth am bob digwyddiad a noddir gan Aelodau’r Cynulliad a gynhelir ar ystâd y Cynulliad, ac nid dim ond y digwyddiadau mewn mannau cyhoeddus yn y calendr. Bydd hyn yn sicrhau bod y Cynulliad yn dangos ei ymrwymiad i'r tryloywder eithaf, a galluogi’r cyhoedd i weld y digwyddiadau a gynhelir ar yr ystâd.
§ y dylai Comisiwn y Cynulliad gomisiynu gwaith ymchwil yn mapio’r ffyrdd o ddylanwadu er mwyn datblygu sail dystiolaeth ystyrlon ac ystyried dewis arall ac, o bosibl, ffyrdd mwy effeithiol i wella tryloywder yn hytrach na Chofrestr Statudol.
§ y dylai un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried yr adrannau perthnasol i Gymru o Ddeddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur 2014 unwaith i Ddeddf Cymru 2017 ddod i rym.
Gwaith yn ystod y Pedwerydd Cynulliad
Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, ysgrifennodd y Llywydd ar y pryd at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ym mis Mai 2012 ynghylch lobïo. Gofynnodd i'r Pwyllgor gynnal adolygiad i drafod y drefn (lobïo) sydd ar waith gan y Cynulliad ar gyfer Aelodau a gwneud argymhellion, os oes angen, ynghylch trefniadau ychwanegol y gallai fod eu hangen i gryfhau'r drefn.
Fel rhan o'r adolygiad hwn, trafodwyd digonolrwydd y trefniadau ar gyfer grwpiau trawsbleidiol hefyd.
Yn dilyn hynny, cynhaliodd y Comisiynydd Safonau ymgynghoriad eang ar lobïo. Daeth i’r casgliad bod y trefniadau a oedd ar waith i reoleiddio lobïo Aelodau'r Cynulliad yn ddigon cadarn ac yn addas at y diben yn y bôn.
Cytunodd y Pwyllgor Safonau ar y pryd â chanfyddiadau'r Comisiynydd, a gwnaeth argymhellion i atgyfnerthu'r trefniadau ar gyfer y dyfodol. Roedd dull y Pwyllgor yn canolbwyntio ar weithgarwch lobïo, yn hytrach na lobïwyr. Credwyd bod lobïo yn gliriach i'w ddiffinio na rhyngweithio 60 o Aelodau ag ystod eang o gynrychiolwyr o gymdeithas ddinesig Cymru.
Trwy ei argymhellion, roedd y Pwyllgor yn ceisio cyflwyno dull 'gwnaed yng Nghymru' i fynd i'r afael â gweithgarwch lobïo. Roedd y Pwyllgor o'r farn bod angen tryloywder ynglŷn â chyfarfodydd lobïwyr proffesiynol heb faich diangen ar bwrs y wlad. Roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai’r Cynulliad fabwysiadu canllawiau ar lobïo a mynediad at Aelodau, a gwnaeth y Cynulliad hyn drwy benderfyniad ar 26 Mehefin 2013.
Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai'r Llywydd adolygu'r canllawiau hyn bob tair blynedd.
Deddfwriaeth mewn mannau eraill yn y DU
Cyflwynwyd Deddf Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur 2014 i Dŷ'r Cyffredin ar 17 Gorffennaf 2013. Cafodd Gydsyniad Brenhinol ar 30 Ionawr 2014. Dechreuwyd adrannau amrywiol o'r Ddeddf ar adegau gwahanol ond, ym mis Mehefin 2016, roedd pob agwedd arni mewn grym.
Cyflwynodd y Ddeddf gofrestr statudol o lobïwyr ymgynghorol a sefydlu Cofrestrydd i orfodi'r gofynion cofrestru. Mae gwariant ymgyrch etholiadol gan y rhai nad ydynt yn sefyll ar gyfer etholiad nac wedi'u cofrestru fel pleidiau gwleidyddol yn cael ei reoleiddio'n fwy helaeth o ganlyniad i'r Ddeddf. Gosodir gofynion cyfreithiol ychwanegol hefyd ar undebau llafur o ran eu rhwymedigaeth i gadw eu rhestr o aelodau yn gyfoes.
§ Mae'n sefydlu cofrestr o lobïwyr proffesiynol a Chofrestrydd lobïwyr i oruchwylio a gorfodi'r gofynion cofrestru;
§ Mae'n newid y gofynion cyfreithiol ar gyfer pobl neu sefydliadau sy'n ymgyrchu mewn perthynas ag etholiadau, ond nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr na phlaid wleidyddol gofrestredig; ac
§ Mae'n newid y gofynion cyfreithiol o ran rhwymedigaethau undebau llafur i gadw eu rhestr o aelodau yn gyfoes.
Mae Rhan 1 o'r Ddeddf yn ymestyn i'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae'r gofyniad i gofrestru yn gymwys i bob lobïwr ymgynghorol sy'n lobïo Gweinidogion Llywodraeth y DU ac Ysgrifenyddion Parhaol, ni waeth lle mae'r gweithgarwch lobïo'n digwydd na lle mae'r lobïwr ymgynghorol.
Fodd bynnag, nid yw Rhan 1 yn gwneud darpariaeth o ran y rhai sy'n lobïo'r Gweinyddiaethau a Deddfwrfeydd Datganoledig. Mae'n ymdrin â materion a gedwir yn ôl yn unig.
Sefydlodd Deddf Lobïo (Yr Alban), a dderbyniwyd ym mis Mawrth 2016, y Gofrestr Lobïo. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Glerc y Senedd sefydlu a chynnal cofrestr sy'n cynnwys gwybodaeth am dri chategori gwahanol o unigolyn: cofrestrwyr gweithredol; cofrestrwyr anweithredol a chofrestrwyr gwirfoddol. Mae'r Bil yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chofnodi ar y gofrestr, gan gynnwys enw a chyfeiriad yr unigolyn neu'r cwmni a gwybodaeth am y gweithgarwch lobïo (yr unigolyn sy'n cael ei lobïo, y dyddiad lobïo ac ati). Mae angen cofnodi gwybodaeth wahanol am gofrestrwyr gweithredol, cofrestrwyr anweithredol a chofrestrwyr gwirfoddol.
Mae'n ofynnol i Senedd yr Alban gyhoeddi canllawiau ar weithredu'r Ddeddf a rhaid iddi gyhoeddi Cod Ymddygiad lobïwyr a'i adolygu o bryd i'w gilydd.
Mae Pennod 3 o God Ymddygiad Cynulliad Gogledd Iwerddon yn gwahardd eiriolaeth â thâl. Ni chaiff Aelodau'r Cynulliad Deddfwriaethol eirioli na chychwyn achos na mater, naill ai’n achos y Cynulliad nac mewn modd arall, o ran taliad na buddiant mewn nwyddau. Mae hyn yn cydnabod y rôl y gall fod gan rai sefydliadau lobïo wrth hysbysu Aelodau'r Cynulliad Deddfwriaethol. Fodd bynnag, mae hefyd yn pwysleisio'r angen i sicrhau nad oes amheuaeth o ddylanwad amhriodol ar y Cynulliad a rhaid i berthynas Aelodau'r Cynulliad Deddfwriaethol â lobïwyr beidio â gwneud rhywbeth sy'n torri'r cod.
Mae Atodiad 1 o'r Cod Ymddygiad hefyd yn cynnwys Canllawiau i Aelodau'r Cynulliad Deddfwriaethol sy'n trafod lobïwyr.